GWEITHGARWCH RHYNGWLADOL GWEINIDOGION

 

Medi 2025

 

 

YMWELIADAU Â CHYMRU

 

25 Medi

 

 

 

 

 

 

 

Ymweliad â Chymru gan Lysgennad Timor Leste i'r DU

Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip â Llysgennad Timor Leste ar ei ymweliad i nodi achlysur agor conswl anrhydeddus newydd yng Nghymru. Yn ddiweddarach yn y dydd bu Ysgrifennydd y Cabinet mewn seremoni breifat i godi baner.

YMWELIADAU Â GWLEDYDD ERAILL

 

06 Medi

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfarfod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg gyda Dirprwy Brif Weinidog yr Alban

Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â Dirprwy Brif Weinidog yr Alban ar gyrion Cynhadledd Cymdeithas Prydain Iwerddon. Prif ffocws y cyfarfod oedd cyfnewid ar bolisi a hyrwyddo iaith.